top of page

Bore llwyddianus yn Rhuthun


Roedd hi'n fore llwyddianus i Seindorf Beaumaris yn Rali flynyddol Gogledd Cymru yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun ddydd Sadwrn wrth i'r Band Ieuenctid a'r Band Hŷn ennill pob tlws yn eu categori.


Roedd y Band Hŷn yn cystadlu y Rali am y tro cyntaf ers ennill yr Adran Agored yn 2009 ac yn cystadlu yn y Bedwaredd Adran am y tro cyntaf ers 1988 a cafwyd perfformiad clodwiw iawn o dan faton eu harweinydd newydd, Scott Lloyd.


Roedd y beirniad, Andrew Warriner, wedi ei blesio'n arw gan y perfformiad o Northern Landscapes gan Peter Graham gan ganmol pob unawdydd yn ei feirniadaeth a chan ddisgrifioi'r perfformiad fel un yr oedd "wedi mwnhau yn arw". Mae Cwpan Her Harry Mortimer yn dychwelyd i Beaumaris felly am y tro cyntaf ers i Fred Evans arwain Band 'B' i fuddugoliaeth yn Adran 4 yn 2000. Yn ogystal ag ennill yr adran, cipiwyd y tlws am yr Orymdaith Orau am eu perfformiad o The Chieftain a dyfarnwyd y chwaraewr flugel, Chris Williams, fel yr Unawdydd Gorau yn Adran 4.


Roedd y Band Ieuenctid hefyd yn cystadlu o dan faton arweinydd newydd wrth i Hefin Evans gymryd yr awenau gyda'r cerddorion ifanc.


Yn anffodus, am y tro cyntaf ers 2006, nid oedd yr un Band Ieuenctid arall yn cystadlu yn Adran 6A, ond roedd y beirniad wedi ei gyfareddu gyda'r perfformiad o The Haselmere Suite gan Peter Graham.


Roedd llawn canmoliaeth o'r "arweinyddiaeth gwych" a "sŵn cerddorol" y band a gorffenodd ei feirniadaeth trwy 'sgwennu "Oce - 'dwi jyst am wrando a mwynhau bellach!" Cipiodd Erin Maloney (Cornet) y tlws am yr unawdydd gorau yn yr Adran Ieuenctid gydag adran taro Seindorf Beaumaris hefyd yn casglu Tlws Joy Soffe am yr Adran Taro gorau o fewn y gystadleuaeth ieuenctid.







19 views

Recent Posts

See All
bottom of page