top of page
Writer's pictureSeindorf Beaumaris Band

Anrhydedd i Gwyn



Mae Cyfarwyddwr Cerdd Seindorf Beaumaris, Gwyn Evans, wedi ei anrhydeddu ag un o brif wobrwyon y Worshipful Company of Musicians.

Bydd Gwyn sy'n byw yn Llanddaniel yn derbyn Medal Mortimer yn ystod Pencampwriaethau Bandiau Pres Ynysoedd Prydain yn y Royal Albert Hall ym mis Hydref. Cyflwynir Medal Mortimer i aelodau o'r byd Bandiau Pres sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy gyda bandiau a cherddorion ifanc ac wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Philip Morris, Cadeirydd Pwyllgor Bandiau Pres y Worshipful Company of Musicians, fod Gwyn yn "arwr tawel ym myd Bandiau Pres ieuenctid Cymru." Yn ogystal a'i lwyddiant gyda Seindorf Hŷn Beaumaris mae Gwyn wedi arwain band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn i dair Pencampwriaeth Ieuenctid Ynysoedd Prydain ac wedi ennill Pencampwriaeth Adloniant Bandiau Pres Ieuenctid Prydain a choron Gŵyl Music For Youth gyda Seindorf ieuenctid Beaumaris. Yn goron i'r cyfan bydd Seindorf Ieuenctid Beaumaris o dan arweiniad Gwyn yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn Utrecht, Yr Iseldiroedd ym mis Mai.

11 views

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page