top of page
Writer's pictureSeindorf Beaumaris Band

Wythnos lwyddiannus i Beaumaris


Seindorf Beaumaris yn dathlu ennill Pencampwriaeth Ieuenctid Prydain

Cafwyd wythnos i’w chofio i gerddorion Seindorf Beaumaris yn ystod mis Mawrth wrth i’r Band Hŷn a’r Band Ieuenctid lwyddo yn eu cystadlaethau cyntaf o’r flwyddyn.

 

Roedd y Band Hŷn yn gwneud y daith flynyddol i Abertawe a Neuadd y Brangwyn ar gyfer Pencampwriaethau Bandiau Pres Cymru. Yn dilyn dod yn Bencampwyr yr Ail Adran llynedd roedd y band wedi cael dyrchafiad ac yn cystadlu yn yr Adran Gyntaf am y tro cyntaf ers 2008.

 

Yna, wythnos union yn ddiweddarach, roedd y Band Ieuenctid yn teithio dros Glawdd Offa er mwyn cystadlu ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Prydain Fawr; y tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ers cyfnod y clo.

 

Cipiodd y Band Hŷn yr ail safle gan sicrhau eu lle ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain Fawr ym mis Medi lle bydd Beaumaris, ynghyd â Seindorf Cwm Ebwy, yn cynrychioli Cymru tra bod y Band Ieuenctid wedi mynd cam yn well a dod yn Bencampwyr Prydain Fawr.

 

Gyda llond llaw o gerddorion ifanc yn chwarae yn y ddau fand, roedd hi’n gyfnod prysur iawn o ymarferion yn syth wedi’r flwyddyn newydd  wrth i Gyfarwyddwr Cerdd y Seindorf, Bari Gwilliam, baratoi’r Band Hŷn a Pete Cowlishaw, prif chwaraewr Bass Eb y Band Hŷn, baratoi’r Band Ieuenctid.

 

“Roedd hi’n anodd iawn gwybod beth i’w ddisgwyl gan ein bod wedi cael dyrchafiad i adran sydd yn llawn o fandiau cryf sydd wedi chwarae ar y lefel yma, os nad lefel uwch, ers sawl blwyddyn,” meddai Bari Gwiliam.


Seindorf Beaumaris yn Neuadd y Brangwyn

“Gyda’r rhan helaeth o’n chwaraewyr yn cystadlu ar y lefel yma am y tro cyntaf, roedd eu hymroddiad a’u awch i wella yn hyfryd i’w weld gan fod y darn prawf, A Day In The Life of a Knight gan Peter Graham, yn heriol iawn.,” ychwanegodd.

 

“Talodd yr ymroddiad yn ar ei ganfed o glywed y beirniad yn canmol safon y ddau fand ddaeth i’r brig!”

 

A talu ar ei ganfed wnaeth gwaith caled y Band Ieuenctid hefyd yn yr Adran Berfformiad o Bencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Prydain yn Ysgol Ramadeg Stockport. Ar ol cael eu coroni’n Bencampwyr a derbyn Gwobr Aur am eu perfformiad cafodd Prif Gornetydd y Band, Osian Maloney, ei wobrwyo fel yr Unawdydd Gorau yn y gystadleuaeth.

 

“Dwi mor, mor falch o’r holl chwaraewyr,” meddai eu harweinydd, Pete Cowlishaw. “O gofio nad oedd y rhan helaeth o’r chwaraewyr erioed wedi camu ar lwyfan i gystadlu o’r blaen mae hwn yn ganlyniad rhagorol.”

 

“Mae’n dangos fod system ieuenctid Seindorf Beraumaris yn iach iawn ac yn dal i dyfu yn dilyn cyfnod y clo. Dwi’n edrych ymlaen yn arw rwan at gystadleuaeth Bandiau Ieuenctid newydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst!”

18 views

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page