top of page

Haf prysur i'r Band



Aelodau ifanc Seindorf Beaumaris yn paratoi gefn llwyfan
Aelodau ifanc Seindorf Beaumaris yn paratoi gefn llwyfan

Mae hi wedi bod yn haf prysur i Seindorf Beaumaris gydag ymweliadau â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst a Phencampwriaethau Prydain Fawr yn Cheltenham ym mis Medi yn gweld dau dlws newydd yn cyrraedd y dref. 

 

Yn dilyn saib o dair mlynedd oherwydd y pandemig, roedd 'na gryn edrych ymlaen at gystadlu ar lwyfan y Brifwyl unwaith eto ac yng ngeiriau’r beirniad, John Glyn Jones, cafwyd perfformiad "cerddorol, digybledig ym mhob ystyr" gan Seindorf Beaumaris. 

 

Ac roedd cryn ddathlu ar y maes wedi i Beaumaris ennill Pencampwriaeth yr Ail Adran yn Nhregaron, tair blynedd ers cipio Tlws y Bedwaredd Adran yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. 

 

Roedd yr arweinydd, Bari Gwilliam, wrth ei fodd efo'r canlyniad a'r perfformiad. "Mae hi bob amser yn braf cael cystadlu yn yr Eisteddfod,” meddai.   


Dathlu efo Tlws Adran Dau yr Eisteddfod

"Mae 'na awyrgylch wahanol i'n cystadlaethau arferol ac mae'n gyfle hefyd i bobl sydd ddim yn gwrando ar fandiau pres i werthfawrogi yr hyn da ni'n ei wneud."  Ond doedd dim amser i Bari na’r band orffwys ar eu rhwyfo gan fod Seindorf Beaumaris yn paratoi at gystadlu ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain Fawr yn Cheltenham ychydig wythnosau yn ddiweddarach. 

 

Mae Pencampwriaeth Prydain Fawr yn cael ei gynnal mewn dau ran; y cyntaf yw’r Pencampwriaethau Rhanbarthol, gyda’r bandiau gorau o’r wyth rhanbarth yna’n sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol. 

 A dyma fyddai’r trdydd Pencampwriaeth o’r bron i’r band o Fôn chwifio’r Ddraig Goch yn Cheltenham ar ôl cynrychioli Cymru yn y Bedwaredd Adran a’r Drydedd Adran dros y blynyddoedd diwethaf. 

 

Wedi ennill Pencampwriaeth Cymru ym mis Mawrth roedd Beaumaris yn herio 17 o fandiau eraill o Orllewin Lloegr, Llundain a Siroedd y De, Canolbarth Lloegr, Gogledd Orllewin Lloegr, Sir Efrog, Gogledd Lloegr a’r Alban. 

 

Cafodd y perfformiad ei ganmol gan y tri beirniad fel un “cerddorol coeth” oedd wedi ei “chyfarwyddo’n gelfydd” gydag “unawdwyr penigamp” a dyfarnwyd Seindorf Beaumaris yn y drydedd safle trwy Brydain.  “Mae’r hyn ‘da ni wedi lwyddo i’w wneud wrth sicrhau dyrchafiad o’r Bedwaredd Adran i’r Drydedd ac yna’r Ail Adran yn flynyddol wedi ein gorfodi i weithio’n hynod o galed,” meddai Bari Gwilliam. 

 

“Mae’r gwaith caled yna wedi talu ar ei ganfed wrth i ni, nid yn unig sicrhau dyrchafiad ar ôl dyrchafiad ond hefyd cystadlu gyda’r goreuon led led Prydain Fawr yn yr adrannu hynny.”

17 views

Recent Posts

See All
bottom of page