top of page

Diwrnod bendigedig i Beaumaris


Seindorf Hŷn Beaumaris, Pencampwyr Adran Pedwar
Seindorf Hŷn Beaumaris, Pencampwyr Adran Pedwar

Cant pedwar deg saith o wahanol chwaraewyr wedi eu harwain gan bedwar arweinydd gwahanol mewn pum band gwahanol ar draws chwe Adran ac yn dychwelyd yn ôl i’r Ynys gydag 14 o dlysau; dyna oedd hanes diwrnod hanesyddol Seindorf Beaumaris yn Rali Gogledd Cymru ym mis Tachwedd.


Seindorf Iau Beaumaris
Seindorf Iau Beaumaris

Cynhaliwyd cystyadleuaeth flynyddol Cymdeithas bandiau Pres Gogledd Cymru yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun ac roedd yn ddechrau cynnar i aelodau nieuengaf Beaumaris wrth i’r Band Iau a’r Band Canolradd gystadlu yn Adran 6B, cystadleuaeth cynta’r dydd, gyda’r Band Ieuenctid yn eu dilyn i’r llwyfan ar gyfer Adran 6A.



“Mae Seindorf Beaumaris yn hynod o falch o’u hadrannau iau ac mae’n destun balchder anferth i ni i weld ein cerddorion ifanc yn graddio trwy’r adran iau cyn cymryd eu sedd efo’r Band Hŷn,” meddai Llywydd Seindorf Beaumaris, Fred Evans.


Seindorf Canolradd Beaumaris
Seindorf Canolradd Beaumaris

A band ifanc iawn gerddodd i’r llwyfan er mwyn amddiffyn eu coron yn Adran Pedwar gydag 16 o’r rhai oedd ar y llwyfan eisoes wedi cystadlu gyda’r Band Ieuenctid gan gynnwys y prif gornetydd, Erin Maloney, lwyddodd i ddod â bore llwyddianus iawn i ben trwy gipio gwobr yr Unawdydd Gorau yn Adran Pedwar yn ogystal â’r Adran Ieuenctid.


Ond nid yr ieuenctid yn unig oedd yn serenu i Beaumaris. Am y tro cyntaf erioed roedd Band Cymunedol Beaumaris yn cystadlu yn Adran Pump ar gyfer bandiau sydd heb eu cofrestru. Roedd yn ddiwrnod penigamp i’r Last of the Summer Wind wrth ddilyn yn ôl troed y Band Canolradd, y Band Ieuenctid a’r Band Hŷn wrth ennill eu hadran.


Seindorf LSW Beaumaris
Seindorf LSW Beaumaris

“Gyda chyfartaledd oed o dros 65 mae’r Last of the Summer Wind yn esiampl gwych artall o ethos cymunedol Seindorf Beaumaris,” eglurodd Fred Evans. “Roedd rhai o aelodau’r band yn chwarae rhai blynyddoedd yn ôl ac wedi dychwelyd i fandio ond doedd nifer helaeth ohonnynt erioed wedi cyffwrdd mewn offeryn pres cyn ymddeol.”



Daeth y diwrnod i ben gyda Beaumaris hefyd yn cipio’r drydedd wobr yn yr Adran Agored gan guyro dau fand o Adrannau uwch yn y broses.



Seindorf Ieuenctid Beaumaris

Gyda dau o efeilliaid y Band Ieuenctid, Morgan a Celt sy’n chwe mlwydd oed, yn ennill Cwpan Coffa Dr Gwilym Roberts am fod chwaraewyr ieuengaf y Rali, roedd yn ddiwrnod i’w gofio i pob un o fandiau Beaumaris.


“Rwy’n hynod o falch o’r hyn ‘da ni wedi gyflawni,” ychwanegodd Mr Evans. “Mae dod a pum band i gystadleuaeth y Gymdeithas yn destament i’r gwaith caled a’r ymroddiad gan pob un o’r arweinyddion, tiwtoriaid a’r gwirfoddolwyr yn Beaumaris." "Ac mae dod a chymaint o dlysau yn ôl i’r ynys yn gwneud yr holl beth werth chweil.”


13 views

Recent Posts

See All
bottom of page