Roedd hi'n ddiwrnod llwyddiannus i Seindorf Beaumaris ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Cymru yn Wrecsam ddydd Sul wrth i'r band orffen yn ail a sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ynysoedd Prydain yn Cheltenham ym mis Medi.
Wedi dychwelyd i gystadlu am y tro cyntaf mewn chwe mlynedd cafwyd perfformiad canmoladwy iawn o'r Dran Prawf, Stantonbury Festival gan Ray Steadman-Allengan o dan lygaid barcud yr arweinydd Scott Lloyd.
Gyda 19 o chwaraewyr y band yn chwarae ym Mhencampwriaweth Cymru am y tro cyntaf erioed a gyda 15 o'r rhain o dan 18 mlwydd oed, roedd y band yn un dra gwahanol i'r Seindorf Beaumaris chwaraeodd yn y Royal Albert Hall yn 2013.
A cafwyd ymateb canmoliaethus iawn gan wasg byd y bandiau pres i berfformiad y band gyda chylchgrawn Brass Band World yn disgrifio'r perfformiad fel un oedd yn "engaging (with) excellent balanced sound and a thrilling style".
Aeth gwefan 4BarsRest cyn belled a digrifio perfformiad Beaumaris o'r Darn Prawf fel "the best Fourth Section rendition of the piece the Editor has heard this year."
Ond fel pob cystadleuaeth bandiau opres dim ond un barn sy'n cyfri, sef barn y beirniaid yn y bocs a gosododd Sarah Groarke-Booth a Sheona Wade Seindorf Beaumaris yn ail tu ôl i fand Gwaun Cae Gurwen.
Mae Beaumaris bellach yn paratoi i ymweld â Phencampwriaeth Pedwaredd Adran Ynysoedd Prydain am y tro cyntaf ers i Beaumaris B Band, o dan faton Fred Evans, ddod yn bencampwyr Pedwaredd Adran Ynysoedd Prydain yn y Royal Albert Hall yn 2000.
Comments