top of page

Gwilliam i gymryd rôl newydd



Gyda pob blwyddyn newydd daw sawl her newydd ac wrth i'r Band edrych ymlaen at flwyddyn prysur dros ben yn 2020 mae Seindorf Beaumaris yn hynod o falch o allu cyhoeddi Bari Gwilliam fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth ac arweinydd preswyl.

Nid oes angen unrhyw gyflwyniad ar Bari gan ei fod yn aelod o Seindorf Beaumaris ers ei fod yn 5 mlwydd oed ac ef oedd y chwaraewr Cornet Soprano pan sicrhaodd Beaumaris eu canlyniad cystadleuaeth gorau erioed gan orffen yn bedwerydd yn rowndoiau terfynol Adran y Bencampwriaeth yn y Royal Albert Hall yn 2012.

Mae Bari yn cymryd y rôl yn dilyn penderfyniad Scott Lloyd i gamu i lawr ym mis Rhagfyr oherwydd gofynion gwaith.

"Hoffai'r pwyllgor ddiolch yn swyddogol i Scott am ei holl waith ac ymroddiad dros y 18 mis diwethaf," meddai Cadeirydd Seindorf Beaumaris, Dr Patsy Thomas.


"O dan arweiniad Scott mae'r band wedi cychwyn ar gystadlu unwaith eto gan sicrhau'r ail safle ym Mhedwaredd Adran Pencampwriaeth Cymru, pedwerydd safle yn Rowndiau Terfynol Ynysoedd Prydain a dyrchafiad i'r Drydedd Adran." "Rydym ni bellach yn edrych ymlaen at y bennod nesaf gyda Bari wrth y llyw."

Mae Bari, sy'n Gyfarwyddwr Cerdd prosiect cerddoriaeth El Sistema Codi'r Tô yng Ngwynedd yn aelod o'r band poblogaidd, Band Pres Llareggub, yn ogystal a bod yn aelod pwysig iawn o Seindorf Beaumaris gan chwarae ochr yn ochr â'i wraig, Kate, sy'n arwain y Band Canolradd, a'i ddwy ferch, Elin a Catrin.

"Fel band sydda'i gwreiddiau'n ddwfn yn y gymuned roedd yn holl bwysig i ni ein bod ni'n penodi rhywun sydd yn deall ethos y band," meddai Llywydd Seindorf Beaumaris, Fred Evans. "Rydym yn deulu o bump o fandiau gyda pob band yr un mor bwysig a'i gilydd. Mae Bari yn deall hyn cystal ag unrhyw un gan ei fod wedi bod yn aelod mor hir," eglurodd Mr Evans.

Er ei fod yn cymryd y rôl fel Cyfarwyddwr Cerdd ac arwein ydd preswyl, cytunwyd byddai colli profiad Bari o adran ifanc y cornets yn ormod i'r band a bydd arweinydd proffesiynol yn ymuno â'r Band wrth baratoi a chystadlu yn Nhrydedd Adran Pencampwriaeth Cymru yn Abertawe ar 29 Chwefror.


"Gan fy mod wedi bod yn aelod o'r band ers y 1980au cynnar, mae'n fraint ac yn anrhydedd anferth i mi fod wedi cael cynnig y rôl yma ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at y flwyddyn nesaf," meddai Bari.


"Mae Seindorf Beaumaris yn ffynnu ar y funud gyda bron i 150 o chwaraewyr gwahanol yn rhan o'r sefydliad a gyda chymysgedd o chwaraewyr profiadol a chwaraewyr ifanc ymroddgar yn rhan o'r band sy'n cystyadlu mae'n gyfnod cyffrous iawn i ni yn Beaumaris."

26 views

Recent Posts

See All
bottom of page