Mae sawl aelod o adranau iau Seindorf Beaumaris wedi derbyn offerynnau newydd diolch i gefnigaeth amhrisiadwy Cyfeillion Seindorf Beaumaris.
Mae nifer fawr o aelodau newydd wedi ymuno â'r Bandiau Iau, Canolradd ac Ieuenctid ac mae hynny wedi gweld offerynnau'n brin iawn ymysg yr aelodau, ond yr wythnos yma cyflwynwyd dau faritone newydd a chwe chornet newydd gan Gyfeillion Seindorf Beaumaris.
Mae'r offerynnau newydd, sydd eisoes wedi dod o hyd i gartref newydd, yn sicrhau fod aelodau ifanc y band yn gallu parhau â'u haddysg cerddorol.
Mae Cyfeillion Seindorf Beaumaris yn sefydliad elusenol sydd wedi ei sefydlu er mwyn cefnogi pob agwedd o fandiau pres yn Beaumaris ac os hoffech ymuno â'r Cyfeillion er mwyn eu helpu nhw i'n helpu ni, cysylltwch â friendsofbeaumarisband@gmail.com am fwy o fanylion.
Comentarios