Trombonydd y Band Ieuenctid, Gwenllian Howe, oedd derbynydd cyntaf Tarian Ruth Gwilliam fel cerddor Seindorf Beaumaris sydd wedi dangos y cynydd mwyaf yn ystod y flwyddyn.
Cyflwynwyd y wobr i Gwenllian er cof am gyn aelod Seindorf Beaumaris, Ruth Gwilliam, yn ystod Cyngerdd Hâf y band nos Sadwrn diwethaf.
Dim ond tair mlynedd yn ôl dechreuodd Gwenllian, sy'n ddisgybl yn Ysgol Tryfan, chwarae'r trombôn gan ymuno â Band Canolradd Seindorf Beaumaris.
Yn ogystal â helpu'r Band Canolradd sicrhau llwyddiant yn Adran Iau Pencampwriaeth Ynysoedd Prydain, llwyddodd Gwenllian i gael Merit yn ei arholiad Grâdd 6 yn ystod tymor yr hâf.
Ac fel aelod o Fan Jazz Tryfan a Band Symffonig y Sir, mae Gwenllian yn gerddor prysur iawn ac os nad yw un offeryn yn ddigon, mae Gwenllian yn feiolinydd penigamp hefyd gan chwarae gyda Cherddorfa Symffonig y Sir.
Llongyfarchiadau mawr Gwenllian!
Comments