top of page

Llwyddiant ar lwyfan yr Eisteddfod


Roedd 'na gryn ddathlu ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol brynhawn Sul wedi i Seindorf Beaumaris ennill Pencampwriaeth Ail Adran yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.


Yn dilyn saib o dair mlynedd oherwydd y pandemig, roedd 'na gryn edrych ymlaen at gystadlu ar lwyfan y Brifwyl unwaith eto ac yn ôl y beirniad, John Glyn Jones, cafwyd perfformiad "cerddorol, digybledig ym mhob ystyr" gan Beaumaris. Agorwyd y perfformiad gyda gorymdaith The Jaguar gan Goff Richards, cyfansoddwr adnabyddus ym myd y bandiau pres sydd hefyd yn aelod o Gorseth Kernow sef Gorsedd Beirdd Cernyw.

Cafwyd mwy o ysbrydoliaeth Celtaidd ar gyfer yr ail ddarn, Irish Blessing, cyn symud i fyd y big band ar gyfer Swingtime Religion ac yna gorffen yn Norwy gyda darn a gyfansoddwyd gan Torstein Aagaard-Nilsen ar gyfer Band Pres Tromsø o'r enw Arctic Funk.

Roedd yr arweinydd, Bari Gwilliam, wrth ei fodd efo'r canlyniad a'r perfformiad. "Oherwydd gwyliau ac arholiadau mae hi wedi bod yn anodd cael band llawn i'r ymarferion," meddai. "Ond roedd pob un yn gwybod ei waith ac mae'r perfformiad yn dyst i hynny." "Mae hi bob amser yn braf cael cystadlu yn yr Eisteddfod, ychwanegodd. "Mae 'na awyrgylch wahanol i'n cystadlaethau arferol ac mae'n gyfle hefyd i bobl sydd ddim yn gwrando ar fandiau pres i werthfawrogi yr hyn da ni'n ei wneud."

21 views

Recent Posts

See All
bottom of page