top of page

Straeon cystadlu



Wrth i'r Band baratoi i gystadlu ym Mhencampwriaeth Cymru am y tro cyntaf ers chwe mlynedd rydym ni wedi bod yn edrych yn ôl trwy archifau'r Band ac yn ailymweld â chystadlaethau'r gorffennol.


Er cael ein ffurfio ym 1921 bu rhaid disgwyl tan 1974 cyn i Seindorf Arian Beaumaris a'r Cylch, fel oedd y Band yn cael eu hadanabod bryd hynny, ddewis cystadlu ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ynysoedd Prydain.


Cyn 1991, yn hytrach na chystadlu yn rowndiau rhagbrofol Cymru, roedd bandiau gogledd Cymru yn croesi Clawdd Offah er mwyn cystadlu ym Mhencampwriaeth Gogledd Orllewin Lloegr. Ac felly y bu ym 1974 wrth i Seindorf Arian Beaumaris a'r Cylch o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerdd, Ned Needham, deithio i Parr Hall, Warrington ar gyfer eu cystadleuaeth Areas cyntaf erioed.


Wrth bori trwy lyfrau cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Band ar y pryd does dim llawer o gyffro i'w glywed wrth i'r Band baratoi am yr eiliad hanesyddol yma. Daw un o'r prin gyfeiriadau at y gystadleuaeth yn ystod cyfarfod mis Ionawr 1974 pan ofynwyd i'r ysgrifennydd, Mr T. Gaunt, i brynnu "some red nylon coats" ar gyfer y gystadleuaeth ac ar yr un pryd daeth y pwyllgor at benderfyniad i n ewid lliw gwisg y band i gynnwys "charcoal grey trousers".


Ond nid y pwyllgor yn unig oedd yn ei chael yn anodd deall pwysigrwydd y gystadleuaeth fel y nodir yn ystod cyfarfod mis Chwefror "... Mr Needham and the secretary were not satisfied with the attendance of certain players at rehearsals for this contest" a trefnwyd cyfarfod ar gyfer yr wythnos ganlynol er mwyn "... get the feelings of the band in general, about the contest in Warrington."


Mae'n rhaid fod y cyfarfod yn un positif gan i'r Band nid yn unig gystadlu ond fe lwyddodd Seindorf Arian Beaumaris a'r Cylch i orffen yn yr ail safle tu ôl i Fand Marple a sicrhau eu lle yn Rowndiau Terfynol Prydain yn Neuadd y Dref, Hammersmith.


Roedd y pwyllgor yn llawer mwy prysur gytda threfniadau ar gyfer y Gystadleuaeth yn Llundain gan sefydlu Pwyllgor Codi Arian a gan drefnu bws cefnogwyr ar gyfer y daith i Lundain. Bydd yn costio mwy na'r £2.50 y pen i fynd ar fws cefnogwyr i Wrecsam ym mis Mawrth ar gyfer antur cystadlu diweddaraf Seindorf Beaumaris ond byddai'n braf iawn petai'r band yn gallu efelychu canlyniad band Mr Needham o 45 mlynedd yn ôl.

16 views

Recent Posts

See All
bottom of page