Beaumaris i gystadlu unwaith eto
Bydd Seindorf Beaumaris yn dychwelyd i fyd y cystadlu am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn ar ddiwedd y mis wrth i'r Band deithio dros Glawdd Offa i gystadlu yn erbyn goreuon gogledd orllewin Lloegr. Ar ôl pum mlynedd o seibiant bydd y Band yn ailgychwyn ar eu taith gystadleuol yn Adran 4 o Ŵyl Bandiau Pres Rochdale ar ddydd Sul 21 Hydref. "Wedi sawl blwyddyn o ailadeiladu a chanolbwyntio ar ddyfodol y Band trwy ddatblygu a hybu yr adranau iau, mae'n bryd bellach i ni roi'r cyfl