top of page

Deg o'r bron!



Llwyddodd y Band Ieuenctid i sicrhau eu degfed coron yn olynol yn Rali Gogledd Cymru yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun ddydd Sadwrn.

O dan ofal y Cyfarwyddwr Cerdd, Gwyn Evans, llwyddodd y band, oedd yn chwarae Olympus gan Philip Harper, i gipio'r wobr am yr Emyn Orau am chwarae Redhead.

Roedd y ddau feirniad, Paul Wilson a John Glyn Jones yn llawn canmoliaeth o berfformiad aeddfed y band yn ystod eu sylwadau, welodd lwyddiant hefyd i'r Band Canolradd.

O dan arweiniad Bethan Evans, llwyddodd y Band Canolradd i ennill y wobr am yr Emyn Orau yn Adran 6B yn dilyn eu dehongliad o Missionary tra bod y Band Canolradd hefyd wedi cipio'r wobr am yr Adran Taro Orau o'r holl Fandiau Ieuenctid.

11 views

Recent Posts

See All
bottom of page