top of page

Diwrnod da o gystadlu



Roedd yn ddiwrnod i'w gofio i Seindorf Beaumaris ar fore agoriadol cystadlu Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Modedern, Ynys Môn wrth i'r Band gasglu dwy wobr gyntaf.

Dechreuodd y cyfan gydag aelodau'r Band Ieuenctid yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Bedwaredd Adran o dan arweinyddiaeth Gwyn Evans, cyn i Gwyn fachu yn ei gornet ac ymuno â'r Band Hŷn o dan arweinyddiaeth Morten Hansen a chipio pencampwriaeth y Drydedd Adran.

Dyma'r tro cyntaf i Seindorf Beaumaris gystadlu yn y Brifwyl ers ennill cystadleuaeth Y Bencampwriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 2009, ond gyda'r Eisteddfod ar eu tomen eu hunain roedd y Band yn benderfynol o wneud eu marc.

"Roedden ni'n benderfynol o gystadlu gan fod yr Eisteddfod yn dod i Ynys Môn," eglurai Gwyn Evans. "Ac roedd ein cyfaill Morten Hansen o Norwy eisiau cael blâs ar yr Eisteddfod felly roedd yn gyfle iddo ef hefyd arwain ar lwyfan y Brifwyl."

"Mae ennill un tlws yn achos dathlu, ond mae cipio dwy yn arbennig," ychwanegodd.

"Roedd cael y criw ifanc i gyd yn cystadlu yn y bore cyn i'r aelodau hŷn y Band Ieuenctid wedyn ymuno â'u tiwtoriaid ar gyfer y Drydedd Adran yn emosiynol iawn," meddai Ysgrifennydd Cystadleuaeth y Band, Gary Pritchard.

"Dyma yw ethos Seindorf Beaumaris, sef adeiladu sylfaen dda yn ein bandiau ieuenctid a'u hannog i berfformio."

Yn dilyn eu llwyddiant roedd 'na gryn ddathlu ar Faes yr Eisteddfod gyda'r ddau dlws yn sicrhau'r dechrau delfrydol i'r Eisteddfod Genedlaethol i'r criw yma o Fonwysion.

7 views

Recent Posts

See All
bottom of page