Bydd Seindorf Beaumaris yn dychwelyd i fyd y cystadlu am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn ar ddiwedd y mis wrth i'r Band deithio dros Glawdd Offa i gystadlu yn erbyn goreuon gogledd orllewin Lloegr.
Ar ôl pum mlynedd o seibiant bydd y Band yn ailgychwyn ar eu taith gystadleuol yn Adran 4 o Ŵyl Bandiau Pres Rochdale ar ddydd Sul 21 Hydref.
"Wedi sawl blwyddyn o ailadeiladu a chanolbwyntio ar ddyfodol y Band trwy ddatblygu a hybu yr adranau iau, mae'n bryd bellach i ni roi'r cyfle i'r chwaraewyr ifanc yma gystadlu fel rhan o'r Band Hŷn," meddai arweinydd newydd Seindorf Beaumaris, Scott Lloyd.
"Mae gennym ni asgwrn cefn o chwaraewyr profiadol yn y band a bydd hynny yn gefn mawr i'r aelodau ifanc sydd yn cystadlu am y tro cyntaf.
"Yr hyn sy'n braf iawn yw yn ogystal â'r chwaraewyr ifanc, mae 'na aelodau hŷn sy'n cystadlu am y tro cyntaf hefyd wrth i rhai o aelodau'r LSW ymuno efo ni ar nos Iau er mwyn chwythu a mwynhau!"
Ym 1991 llwyddodd Seindorf Beaumaris i ennill Pencampwriaeth Ynysoedd Prydain yn y Bedwaredd Adran cyn mynd ar daith anhygoel welodd y band yn esgyn yr holl ffordd i Adran y Bencampwriaeth.
Mae sawl un o'r hen bennau yn parhau i fod yn aelodau o'r Band ac yn barod iawn i rannu eu profiad ac i rannu cyngor gyda'r cerddorion ifanc.
"Da ni wedi bod yn datblygu a hybu'r ieuenctid yn Beaumaris ers rhai blynyddoedd bellach," meddai Nia-Wyn Kilminster oedd yn aelod o Seindorf Beaumaris orffenodd yn y pedwerydd safle yn Adran y Bencampwriaeth yn y Royal Albert Hall yn 2011.
"Daeth y datblygiad yna i uchafbwynt wrth i'r Band Ieuenctid sicrhau'r trydydd safle ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn Utrecht ym mis Mai ac mae'n bwysig rwan bod y chwaraewyr ifanc yma yn cymryd y cam nesaf ac yn cael blas ar gystadlu mewn Band Hŷn," meddai.
"Bydd cystadlu gydag ac yn erbyn oedolion yn her hollol newydd i'r Band," ychwanegodd Maggie Williams, oedd hefyd yn rhan o'r daith anhygoel gafodd Seindorf Beaumaris dros yr 20 mlynedd diwethaf.
"Mi fydd yn her anferth, ond yn bwysicach na hynny, mi fydd yn hwyl hefyd ac yn sicrhau dyfodol Seindorf Beaumaris," ychwanegodd.
Comentários