top of page

Gwobr Band Cymru i Beaumaris



Ar benwythnos prysur i Seindorf Beaumaris llwyddodd yr ensemble hŷn Brass Beaumaris i syfrdanu'r gynulledifa deledu yn ystod rownd derfynol Band Cymru ar S4C.

Er na lwyddodd Brass Beaumaris i ennill y brif wobr, cafodd y Band y wobr am yr Eitem Fwyaf Adlonianol am eu datganiad o Hora Staccato yn ystod y rownd gynderfynol.

Band y Cory oedd y buddugwyr ond dywedodd y tri beirniad rhyngwladol Wyn Davies (Seland Newydd), Michael Mossman (UDA) a Gordon Campbell (Lloegr) wrth y gynulleidfa yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe byddai "… unrhyw un o dri band wedi gallu ennill."

Datgelodd gwestai stiwdio S4C, Branwen Gwyn, mai Brass Beaumaris oedd ei ffefryn hi ar gyfer y brif wobr gan ddweud fod y perfformiad "wedi ei chyffwrdd yn emosiynol yn ogystal a bod yn adloniant pur."

Chwaraeodd Brass Beaumaris, oedd yn ensemble o aelodau presenol a chyn aelodau Seindorf Beaumaris, Activate gan Matthew Hall, Moses, Get Down gan Barrie Gott cyn chwarae un o uchafbwyntiau'r gyfres gyfan gyda darn gan adran isel y band, Down in the River to Pray, welodd y pedwar tuba a thri euphonium yn serenu.

Roedd Cyfarwyddwr Cerdd Beaumaris, Gwyn Evans, yn hynod o falch o berfformiad ei Fand gan ddweud ei fod yn "bleser pur gallu arwain criw o gerddorion mor dalentog." "Daeth y cerddoriaeth o'r galon ac roedd hin gymaint o hwyl ar y llwyfan - dyna sy'n bwysig wrth greu cerddoriaeth," ychwanegodd Gwyn.

6 views

Recent Posts

See All
bottom of page