top of page

BAND IAU

Arweinydd: Maggie Williams
Y Band Iau yw'r cyntaf o adrannau iau Seindorf Beaumaris ac yma mae'r rhan fwyaf o'n cerddorion ifanc yn cael eu profiad cyntaf o fandiau pres.
O dan lygaid barcud Maggie Williams, mae'r Band Iau yn sicrhau fod yr aelodau yn profi seiliau cerddorol cadarn mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar.
I nifer o rienni, mae'r byd bandiau pres yn fyd diarth iawn felly rydym wedi paratoi erthygl fach i geisio egluro'r pam, pwy a sut!


Mae'r Band Iau yn ymarfer ar nos Lun rhwng 5.30pm a 6.30pm

bottom of page