top of page
LAST OF THE SUMMER WIND
Arweinydd: Fred Evans
Y band ieuengaf yn nheulu bandiau Seindorf Beaumaris ydi band y Last of the Summer Wind.
​
Ffurfiwyd yr LSW yn 2008 wedi i fab Fred, Gwyn, ddychwelyd o Norwy wedi ei ysbrydoli gyda'r ffaith fod bandiau draw yno yn cynnwys teuluoedd cyfan. Roedd Gwyn yn bendefynol o efelychu yr hyn roedd wedi ei weld yn Norwy gyda plant, rhieni a neiniau a theidiau i gyd yn chwarae yn yr un teulu o fandiau.
​
Dim ond naw person oedd yn yr ymarfer cyntaf un ond rs hynny mae'r band cymdeithasol yma wedi mynd o nerth i nerth gyda dros 40 o gyn chwaraewyr y band hÅ·n, rhieni a chyfeillion y band sydd wedi penderfynu nad yw gwrando a gwylio ddim hanner cystal a chwarae eu hunain!
​
Gyda sawl cenhedlaeth o sawl teulu yn chwarae yn y bandiau mae hi'n amhosib osgoi'r awyrgylch cyfeillgar a theuluol o fewn y Band.
Mae'r LSW yn ymarfer ar nos Fercher rhwng 7.00pm a 8.30pm ac mae 'n groeso cynnes i unrhyw un sydd eisiau rhoi cynnig ar chwarae!
bottom of page