top of page

BAND HŶN

Arweinydd: Bari Gwilliam
Seindorf Beaumaris Papur Menai.jpg

Mae Seindorf Beaumaris yn cael eu hystyried yn un o ensemblau gorau Cymru gyfan, ac maent yn falch iawn o fod yn lysgenhadon cerddorol dros Ynys Môn.

Tra bod y band yn ffynnu ar weithredu yn y gymuned lleol trwy addysg ac adloniant, maent hefyd wedi cael cydnabyddiaeth cenedlaethol a rhyngwladol am ragoriaeth cerddorol.

Yn Beaumaris rydym yn credu mai'r gyfrinach i'n llwyddiant yw'r gallu a'r awch i ddatblygu unigolion a sicrhau bod pob aelod yn cael eu hannog i gyrraedd, a hyd yn oed mynd tu hwnt, i'w llawn botensial. Mae'n destun balchder mawr yn y Band i weld cerddorion ifanc yn esgyn trwy'r adrannau iau er mwyn cyrraedd y Band Ieuenctid ac yna symud i gymryd eu seddi gyda'r Band Hŷn.

Mae Seindorf Beaumaris yn cystadlu yn Adran Gyntaf Cymru ac wedi sicrhau'r trydydd safle ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Prydain Fawr ym mis Medi 2023.


Mae'r Band Hŷn yn ymarfer ar nos Iau rhwng 7.30pm a 9.30pm ac mae 'na groeso cynnes i unrhyw un ddod i wrando a mwynhau.

bottom of page